largest flag unfurled on zip wire split image lowri with certificate and action shot

Scroll down to read this article in Welsh / Sgroliwch i lawr i ddarllen yr erthygl hon yn Gymraeg

Lowri Morgan (UK) is known for her skills as a television presenter, adventurer and ultra-athlete.

In celebration of St. David’s Day 2022, she decided to attempt something altogether different – a world record.

Hoisting a 101.4 m² (1091.46 ft²) Welsh flag, she took off from the Zip World Tower in Hirwaun, Wales, unfurling the flag as she descended.

This complex and hazardous attempt required Lowri to release the flag and have it fully unfurled in a minimum of 10 seconds, all while travelling down the zip wire at breath-taking speed - 70 mph to be exact. 

Despite the lashing, freezing rain and mist adding an extra layer of complication, Lowri’s daring attempt broke the record for the largest flag unfurled by zip wire.

Lowri in front of flag with certificate

As she flew down the zip wire, the red dragon, or "Y Ddraig Goc", fluttered against the lush backdrop of the Rhigos mountains.

The attempt was facilitated by Welsh language television channel S4C. This is the third year running the channel have had record-breaking front and centre of their St. David's Day celebrations, first partnering with Guinness World Records in 2020 and again in 2021

Lowri and the team were supported by Stephen Handley who is a member of the British Army's official freefall display team the Red Devils. 

Zip World Tower is the fourth Zip World site to open and is the first situated in south Wales. It was built in what was previously a coal mining site, the old Tower Colliery. 

size of welsh flag unfurled from zip wire

We’re sure many Welsh flags will be flown and waved today – though maybe none quite as large at Lowri’s! 

Take a look at all the other records that have been attempted for St. David’s Day 2022, including the fastest time to pull a double decker bus and the farthest throw of a rubber chicken.

Welsh:

Fflag Cymru anferth yn cael ei chwifio ar wifren wib gan dorri record byd

Mae Lowri Morgan (DU) yn adnabyddus am ei sgiliau fel cyflwynydd teledu, anturiaethwraig ac athletwraig eithafol.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2022, penderfynodd roi cynnig ar rywbeth hollol wahanol – record byd.

Gan godi baner Cymru 101.4 m² (1091.46 tr²), aeth oddi ar Zip World Tower yn Hirwaun, Cymru, gan ddadrolio’r fflag wrth iddi ddisgyn.

Er mwyn cyflawni’r ymgais gymhleth a pheryglus hon, roedd gofyn i Lowri ryddhau’r faner a’i dadrolio’n gyfan gwbl mewn dim mwy na 10 eiliad, a hynny wrth deithio ar y wifren wib ar gyflymder sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt – 70 mya i fod yn fanwl gywir.

Er gwaetha’r glaw rhewllyd a’r niwl yn ychwanegu mwy fyth o gymhlethdod, fe dorrodd ymgais heriol Lowri y record am y fflag fwyaf i gael ei dadrolio’n defnyddio weiren wib.

Wrth iddi wibio i lawr y weiren wib, fe chwifiai’r “Ddraig Goch” yn erbyn cefndir hardd mynyddoedd y Rhigos.

Hwyluswyd yr ymgais gan sianel deledu S4C.

Dyma'r drydydd flwyddyn yn olynol i'r sianel roi lle canolog i dorri recordiau yn eu dathliadau, wrth iddyn nhw bartneru â Guinness World Records am y tro cyntaf yn 2020 ac yna eto yn 2021.

Cefnogwyd Lowri a’r tîm gan Stephen Handley, sy’n aelod o dîm arddangos swyddogol Byddin Prydain, y Red Devils.

Zip World Tower yw’r pedwerydd safle Zip World i gael ei agor a dyma’r cyntaf yn ne Cymru. Fe’i hadeiladwyd ar hen safle pwll glo, Glofa’r Tŵr.

Rydyn ni’n siŵr y bydd llawer o fflagiau’n chwifio heddiw – er, efallai dim rhai mor fawr ag un Lowri!

Edrychwch ar yr holl ymdrechion eraill i dorri recordiau eraill a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022, gan gynnwys tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (benyw) a taflu iâr rwber y pellter mwyaf.